Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 6 Mai 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 12.20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Jocelyn Davies AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Gwyn R Price AC John Griffiths AC (yn lle Gwenda Thomas AC) Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lyn Hambridge, Cyngor Sir Penfro Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru
Helen Northmore, Chartered Institute of Housing Sam Austin, Llamau Emma Reeves-McAll, Tai Pawb Andrew Morris, Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Ail Clerc) Sarah Beasley (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) David Smith (Cynghorwr Arbenigol) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, etholwyd Mike Hedges AC yn Gadeirydd dros dro yn absenoldeb Christine Chapman AC.
1.3. Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.4. Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat.
2 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4 - Y Sefydliad Tai Siartredig, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Helen Northmore, Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru
· Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru
· Lyn Hambridge, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Penfro, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.2 Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach i’r Pwyllgor, fel a ganlyn:
• nifer y bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed sy’n ymrwymo i gontractau meddiannaeth yn y sector tai cymdeithasol ar hyn o bryd.
• effaith diwygio lles ar ôl-ddyledion rhent difrifol a goblygiadau cael gwared ar Sail 8 ar gyfer cymdeithasau tai.
2.3 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach i’r Pwyllgor fel a ganlyn:
• darparu asesiad anghenion statudol ar gyfer pob person ifanc 16 a 17 mlwydd oed cyn eu bod yn ymrwymo i gontract meddiannaeth.
3 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 5 - Cymorth Cymru a Tai Pawb
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sam Austin, Cymorth Cymru
· Emma Reeves-McAll, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Tai Pawb
3.2 Cytunodd Cymorth Cymru i ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach i’r Pwyllgor fel a ganlyn:
• barn eich aelodau ar y darpariaethau yn y Bil sy’n ymwneud â’r angen i gyflwr yr annedd fod yn addas i bobl fyw ynddo.
• barn eich aelodau ar yr hyn y gellid ei gynnwys mewn safon cyfwerth â safon ansawdd tai Cymru.
3.3 Cytunodd Tai Pawb i ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach i’r Pwyllgor fel a ganlyn:
• barn eich aelodau ar yr hyn y gellid ei gynnwys mewn safon cyfwerth â safon ansawdd tai Cymru ar gyfer y sector rhentu preifat.
4 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 6 - Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Andrew Morris, Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod (trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4, ac ystyried y dull o graffu ar y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru))
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 4, 5 a 6
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
8 Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyried dull craffu’r Pwyllgor
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).